Plant hefo Anableddau

Gallwn ddarparu cymorth gofal plant un i un ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd. Gallwn weithio gyda phlant sydd ag anghenion meddygol, Awtistiaeth, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), nam ar y golwg ac anableddau eraill.

Mae gennym staff profiadol a chymwysedig a buom yn darparu cymorth un i un am fwy na 10 mlynedd.

Bydd eich plentyn yn gallu chwarae a dysgu mewn amgylchedd hapus, diogel ac ysgogol.

O Gam i Gam

Mae pob plentyn yn arbennig ond mae ar rai angen ychydig o gymorth ychwanegol.

Mae O Gam i Gam yn galluogi plant ag anghenion ychwanegol i gael mynediad i leoliadau gofal plant o ansawdd da a chyfranogi’n llawn ynddyn nhw ym mhob rhan o sir Castell-nedd Port Talbot.

Mae’r cynllun hefyd yn fodd i blant o deuluoedd sy’n derbyn budd-daliadau penodol gael mynediad i leoliad gofal plant o ansawdd da am bris gostyngol.

I gael gwybod rhagor am gynllun O Gam i Gam, cysylltwch â ni drwy ffonio 01639 710076, lle gallwn asesu anghenion eich plentyn.