Codwch Arian i Ni

Ydych chi’n gallu ein helpu ni?

Mae cynifer o ffyrdd y gallwch chi neu grŵp ohonoch gymryd rhan a chodi arian ar gyfer Canolfan Deuluoedd Building Blocks. Fel elusen fach a sefydlwyd fwy na 15 mlynedd yn ôl gan famau lleol o Resolfen, mae gwir angen eich cefnogaeth arnom i’n helpu i barhau i ddarparu’r ystod o wasanaethau rydym ni’n eu cynnig yn lleol.

Gan ein bod ni’n elusen, rydym yn dibynnu ar grantiau a rhoddion gan gefnogwyr fel chi. Dros y naw mlynedd diwethaf, buom yn helpu teuluoedd trwy wneud gwahaniaeth yn eu bywydau. Rydym yn gwneud mwy na chynnig gofal plant yn unig drwy helpu ein teuluoedd mewn sawl ffordd.

Rydym wedi gallu gweithio gyda phlant a theuluoedd rhyfeddol, ond ni allwn wneud hynny heb eich cymorth chi a fydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i’n teuluoedd, ein plant a’n pobl ifanc.

“Roedd Tim yn blentyn ag ymddygiad heriol iawn oherwydd ei anabledd Awtistiaeth, oedd yn golygu’i fod yn unig iawn ac yn cael trafferth gwneud ffrindiau. Roedd ein gweithwyr yn gallu gweithio’n agos gyda Tim; gwnaethom hynny trwy helpu’i gyfoedion i ddeall yr heriau oedd ganddo. Buom yn helpu Tim gyda’i hyder a’i hunangred hefyd. Fe wellodd ymddygiad Tim ac, yn bwysicach na hynny, mae llawer o ffrindiau ganddo.”