Clwb ar ôl Ysgol

Rydym yn cynnig amgylchedd diogel lle gall plant 3-12 oed fwynhau eu hunain ar ôl ysgol. Mae gennym ystod eang o deganau a gemau ar y safle. Rydym hefyd yn cynnig gwahanol weithgareddau, h.y. pêl-droed, cyfrifiaduron, Wii, osgoi’r bêl (dodgeball), cwisiau a llawer mwy.

Mae gan y staff, sydd wedi’u hyfforddi’n llawn, gymwysterau gofal plant perthnasol. Darperir byrbryd bach iach rhwng 4pm a 4.15pm bob dydd. Mae diodydd ar gael trwy’r amser. Darperir ar gyfer unrhyw anghenion deietegol arbennig.

Mae’r clwb ar agor ar bob diwrnod ysgol (ac eithrio diwrnodau HMS pan rydyn ni’n darparu gofal gwyliau) rhwng 3.20pm a 6.00pm. Gallwn godi plant o ysgolion lleol yn yr ardal. Mae ein staff yn derbyn hyfforddiant trylwyr ac mae gennym bolisi gyrru yn y gwaith sy’n sicrhau bod plant yn cael eu codi’n ddiogel.

Rydym yn codi plant o’r ysgolion canlynol:

Ysgol Gynradd Ynysfach (cerdded – dim tâl)

Ysgol Gynradd Cwmnedd (codir tâl)

Ysgol Gymraeg Cwm Nedd (codir tâl)

Ysgol Gynradd Blaengwrach (codir tâl)

Casglu o Ysgolion Lleol

Gallwn godi eich plentyn o’r ysgolion canlynol:

  • Resolfen
  • Cwmgwrach
  • Glyn-nedd

Mae pob un o’n staff yn derbyn hyfforddiant er mwyn sicrhau bod eich plentyn yn cael ei godi’n ddiogel o’i ysgol. Ewch i’n hadran ffioedd i gael gwybodaeth am ein ffioedd.

Gofal Di-fwlch

Mae gofal di-fwlch yn gymorth i chi ymestyn oriau gofal eich plentyn ar ôl addysg feithrin yn yr ysgol er mwyn i chi allu mynd i’r gwaith, cwblhau hyfforddiant neu gymryd rhan mewn gweithgareddau eraill. Byddwch yn gwybod bod eich plentyn yn cael gofal gan staff cymwysedig a phrofiadol Canolfan Deuluoedd Building Blocks.

Gallwn godi eich plentyn o’r ysgolion lleol canlynol:

  • Ysgol Gynradd Ynysfach
  • Ysgol Gynradd Blaengwrach
  • Ysgol Gynradd Morfa Glas, Glyn-nedd
  • Ysgol Gynradd Cwmnedd

Cynigir y gofal di-fwlch hwn tan 3.30pm ond os bydd angen gofal ar ôl yr amser hwn, gall eich plentyn ymuno â’n clwb ar ôl ysgol tan 6.00pm, sy’n rhoi cyfle i’ch plentyn gwrdd â brodyr neu chwiorydd sy’n ddisgyblion llawn-amser yn yr ysgol.