Mae ein grŵp llywio teuluoedd, sy’n cyfarfod bob rhyw 3 mis, yn cynnwys 9 aelod gwirfoddol ar hyn o bryd:
- Debbie Clarke
- Liz Church
- Amy Benns
- Emma Davis
- Emily Bayliss
- Caryn Williams
- Rebecca Parfitt
- Ginny Parry
- Sherrie-ann Paling
Byddem wrth ein bodd yn ehangu’r grŵp gan ei fod yn rhan mor bwysig o’n gwaith. Nod y grŵp llywio yw:
- Rhannu gwybodaeth am sut i gefnogi teuluoedd yn ardal Castell-nedd Port Talbot
- Awgrymu syniadau am weithdai neu hyfforddiant y gellir eu darparu, e.e. rhianta, hunanhyder
- Rhoi barn ar ba wasanaethau sy’n bodloni anghenion eich teuluoedd orau
- Cynnig cyngor ac arweiniad ynghylch cefnogi plant a phlant ag anableddau ac anghenion ychwanegol
- Targedu meysydd lle mae angen rhagor o gymorth
Mae ein cyfarfodydd yn anffurfiol iawn ac yn gyfle gwych i chi roi eich barn ar y gefnogaeth ar gyfer eich cymuned.
Os byddai diddordeb gennych mewn ymuno neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth,
anfonwch neges e-bost at
ebostiwch caitlingnojek@buildingblocksfamilycentre.co.uk neu ffoniwch 01639 710076.
Os hoffech ymwneud â Chanolfan Deuluoedd Building Blocks mewn ffyrdd eraill, edrychwch ar ein hadran wirfoddoli.