Rydym yn cynnig gwasanaeth am ddim sy’n darparu dwy awr a hanner o ymyrraeth gynnar i helpu plant i ddatblygu.
Mae gennym staff cymwysedig sydd wedi’u hyfforddi i gefnogi plant. Cynhelir sesiynau ddwywaith yr wythnos dros gyfnod o 10 wythnos a fydd yn helpu eich plentyn i ddatblygu’i sgiliau Iaith, Lleferydd a sgiliau Cymdeithasol.
Darperir y gwasanaeth hwn ar safle Building Blocks yn Resolfen. Rydyn ni’n gobeithio cyflwyno’r gwasanaeth hwn mewn nifer o gymunedau ar draws Castell-nedd Port Talbot.
Gwybodaeth am Talk2gether
Mae Talk2gether yn cynnig amgylchedd hwyliog a meithringar ac ystod o weithgareddau chwarae a fydd yn helpu i hyrwyddo datblygiad eich plentyn.
Bydd ystod o gyfleoedd chwarae cadarnhaol yn annog eich plentyn i ddatblygu’r canlynol:
- Lleferydd
- Iaith
- Sgiliau gwrando
- Sgiliau cymdeithasol
- Hyder
Cysylltu
Shannon: 01639 710076
“Mae Talk2gether wedi bod o fantais aruthrol i’m plentyn a hefyd wedi rhoi’r offer i ni, ei rieni, allu parhau â’r gwaith gartref. Mae’n rhaglen wych.”