Llogi’r Lle Cyswllt
Yng Nghanolfan Building Blocks yn Resolfen, mae gennym fan cyfarfod y mae modd ei logi er mwyn i deuluoedd sydd wedi gwahanu ddod at ei gilydd a chyfarfod mewn man diogel a chyfeillgar.
Mae ein hystafelloedd yn ddiogel a chyfforddus ac mae amrywiaeth o deganau ar gael ynghyd â chyfarpar priodol ar gyfer plant o bob oedran, fel cadeiriau uchel a chyfleusterau newid cewynnau. Mae gennym fannau chwarae awyr agored hefyd y gellir eu defnyddio trwy wneud cais ymlaen llaw.
Mae’r lle cyswllt ar gael i’w logi rhwng 9am a 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Cost llogi’r lle yw:
- £15.00 yr awr
- Llogi’r ystafell Synhwyraidd £20.00 yr awr neu £10.00 fesul hanner awr
Nodwch: gellir llogi’r lle cyswllt ar y penwythnos am £25.00 yr awr.
Rheolau Llogi’r Lle Cyswllt
Er mwyn sicrhau lles a diogelwch y plant a darparu lleoliad tawel a chroesawgar, gofynnir i ymwelwyr barchu’r rheolau canlynol tra byddant yn y Ganolfan:
- Y rhieni/oedolyn cyfrifol sy’n gyfrifol am ddiogelwch y plant ar bob adeg.
- Ni chaniateir gadael plentyn yn y Ganolfan heb gwmni rhiant/oedolyn cyfrifol.
- Ni chaniateir ysmygu.
- Ni fydd neb sydd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn cael mynediad.
- Ni chewch dynnu ffotograffau/fideos.
- Disgwylir i ymwelwyr osgoi dadleuon a pheidio â defnyddio iaith ddifrïol na sylwadau sarhaus, boed i’r staff, i rieni eraill, i blant nac i wirfoddolwyr.
- Rhaid cadw’r ystafelloedd yn lân a thaclus bob amser.
- Rhaid rhoi gwybod i staff y Ganolfan am bopeth a dorrir.
- Byddwch yn ystyriol o bobl eraill a all fod yn defnyddio cyfleusterau’r ganolfan hefyd.
- Mae gan y ganolfan bolisi cyfrinachedd ond os bydd plentyn yn wynebu risg neu niwed byddwn yn datgelu’r wybodaeth honno gan ddilyn y polisïau priodol.