Ar gyfer digwyddiadau llai ffurfiol, mae gennym ystafelloedd llai o faint sydd â lle i fwyafswm o chwech o bobl. Ystafelloedd ar gyfer cyfarfodydd 1-1 neu gymorthfeydd yw’r rhain ac mae modd eu llogi fesul awr neu drwy delerau contract rheolaidd.
Nifer yr ystafelloedd cyfarfod: 4
Cyfarpar
Gallwn ddarparu ystod o gyfarpar i’w llogi, fel taflunwyr PowerPoint, gliniadur, sgrin, siartiau troi ac ati.
Wi-Fi
Mae cyfleusterau Wi-Fi ar gael.
Arlwyo
Gallwn ddarparu te, coffi, a lluniaeth ysgafn a bwffe llawn (mae’r costau llawn ar gael).
Gofal Plant
Os bydd ei angen arnoch, mae gofal plant ar gael ac yn gallu cael ei ddarparu ar y safle. (mae’r costau llawn ar gael)
Oriau’r Ystafelloedd
Gellir llogi’r ystafelloedd rhwng 8.00am a 9.00pm ac ar benwythnosau.
Mae maes parcio ar gael ynghyd â mynediad llawn ar gyfer pobl anabl.