Telerau ac Amodau Llogi Man Cynnal

Archebu Lle Dros Dro

Byddwn yn cadw lle dros dro am bythefnos. Os na ddaw’r ffurflenni archebu i law yn dilyn yr archeb gychwynnol, bydd y trefniadau’n cael eu canslo yn awtomatig.

Cadarnhau Lle

Byddwn yn cadarnhau eich lle trwy lythyr 7 niwrnod ar ôl derbyn ffurflen archebu wedi’i chwblhau.

Canslo Lle

Ni chodir tâl am ganslo trefniadau fwy na mis ymlaen llaw.

Codir tâl sy’n cyfateb i 50% o’r gost am drefniadau sy’n cael eu canslo 2-4 wythnos cyn y dyddiad llogi

Codir tâl llawn am drefniadau sy’n cael eu canslo lai na phythefnos cyn y dyddiad llogi

Telerau Talu

Cyhoeddir anfoneb ar ôl y dyddiad defnyddio/llogi y bydd rhaid ei thalu cyn pen 30 niwrnod

Yswiriant

Ni all Canolfan Building Blocks Resolfen dderbyn unrhyw atebolrwydd am niwed damweiniol trydydd parti i bersonau na difrod i eiddo trydydd parti sy’n deillio o feddiannaeth a/neu ddefnydd o’r safle. O ganlyniad, rhaid i’r sawl/sefydliad sy’n defnyddio’r adeilad drefnu yswiriant cyhoeddus trydydd parti boddhaol yng nghyswllt ei feddiannaeth a/neu’i ddefnydd o’r safle.

Trefn yr ystafell

Dylid nodi trefn yr ystafell ar y ffurflen archebu. Fodd bynnag, mae’n bosibl trefnu i gael golwg ar yr ystafell cyn cadarnhau’r trefniadau os bydd angen.

Rheolau Cyffredinol

Ni fydd Canolfan Building Blocks Resolfen yn atebol am golled yn sgîl methiant peiriannau, toriad yn y cyflenwad trydan, dŵr yn gollwng, tân, cyfyngiadau a bennir gan y llywodraeth neu weithred Duw a allai achosi i’r ystafell neu ran ohoni fod yn anaddas i’w defnyddio neu beidio â bod ar gael at y diben y cafodd ei llogi. Digwyddiadau’r ganolfan fydd y flaenoriaeth a rhoddir rhybudd rhesymol os bydd rhaid canslo trefniadau o ganlyniad i hynny. Ni chaiff y llogwr ddefnyddio’r Ystafell at unrhyw ddiben ac eithrio’r hyn a ddisgrifiwyd ar y ffurflen archebu ac ni chaiff logi’r Ystafell i neb arall na chaniatáu i’r safle gael ei ddefnyddio at unrhyw ddiben anghyfreithlon na dod ag unrhyw eitem i’r safle a allai gynyddu risg difrod, tân neu ddirymu unrhyw bolisi yswiriant mewn perthynas â’r safle hwn.

Ni chaniateir gyrru bolltau, taciau, sgriwiau, ebillion neu binnau, nac unrhyw wrthrychau tebyg i mewn i unrhyw ddarn o’r ystafell nac arddangos hysbysebion neu hysbysiadau ar y waliau. Dylai pob hysbyseb neu hysbysiad gael eu cyflwyno i’r dderbynfa i’w gosod ar hysbysfyrddau.

Byddai’n ddefnyddiol pe gellid trafod y manylion hyn wrth archebu’r ystafell. Dylai pob ystafell a logir gael ei gadael mewn cyflwr glân a thaclus ar ôl ei defnyddio.

Mae polisi dim smygu ar waith ar safle Canolfan Building Blocks Resolfen a’r cyffiniau agos. (Mae croeso i chi ofyn am gopi o’n polisi smygu)

Defnyddio’r ganolfan gyda’r nos ac ar benwythnosau

Bydd modd defnyddio’r ystafell gyda’r nos tan 9.00pm ar yr amod y gellir gwneud trefniadau addas i ddiogelu’r safle. Ni all ein gofalwr ond derbyn cyfrifoldeb am agor a chau’r safle.

Dril Tân / Gwacáu’r Adeilad

Caiff manylion ynghylch gwacáu’r adeilad eu darparu cyn y digwyddiad. Y sawl sy’n cadeirio neu’n hwyluso’r digwyddiad fydd yn gyfrifol am roi gwybod i’r cyfranogwyr am y weithdrefn. Er mwyn hwyluso’r gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch, bydd angen i bobl gofrestru yn llyfr ymwelwyr Canolfan Building Blocks Resolfen ar ôl cyrraedd yr adeilad.

Cofiwch lofnodi’r gofrestr hefyd pan fyddwch yn gadael yr adeilad.

Cymorth Cyntaf

Mae blwch cymorth cyntaf ar gael o’r dderbynfa os bydd angen. Mae’n bwysig rhoi gwybod i aelod o staff Canolfan Building Blocks Resolfen os bydd unrhyw ddigwyddiad neu ddamwain.