Sut gallwn ni helpu eich plentyn

Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw’r penderfyniad i roi eich plentyn mewn gofal plant a pha mor bryderus y gallwch chi fod ynghylch sut y bydd eich plentyn yn setlo. Rydym yn cynnig sesiwn blasu 5 awr am ddim i chi a’ch plentyn sy’n un o’r ffyrdd i dawelu eich meddwl a helpu i setlo’ch plentyn yn y ganolfan. Mae dod i adnabod y staff a gwneud yn siŵr eich bod yn hapus gyda gofal eich plentyn yn bwysig ac mae’r holl staff yn hapus i ateb unrhyw gwestiynau ynghyd â’r Rheolwyr Gofal Plant sydd ond yn rhy hapus i gael sgwrs.

Bydd eich plentyn yn elwa o ystod o gyfleoedd yn y ganolfan sy’n cynnwys cymdeithasu, cyfarfod ffrindiau newydd, chwarae a dysgu. Mae gennym amrywiaeth o weithgareddau sy’n digwydd ym maes gofal plant a fydd yn cael eu cynnwys yn ein cynllunio a’n harferion. Credwn fod plant yn dysgu orau trwy chwarae, sydd wrth galon ein holl weithgareddau. Bydd plant yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a fydd yn hybu pob maes o ddatblygiad plentyn.

Rydym yn credu’n gryf mewn hawliau plant ac rydym yn sicrhau bod gan blant lais yn y lleoliad a’n bod yn gwrando arnynt. Rydym wedi sicrhau ein Safonau Cenedlaethol ar gyfer Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yn 2011 ac yn parhau i sicrhau ein bod yn gweithio tuag at egwyddorion cyfranogiad.