Ydych chi’n rhiant i blentyn ag anabledd sydd ag angen cymorth?
Gall Camau Ymlaen gynnig ystod eang o gymorth i chi i helpu i gryfhau eich teulu. Gallwn weithio gyda chi i ddarparu cymorth penodol ar gyfer anghenion eich teulu. Gallwn gynnig:
- Cymorth cyn ac ar ôl diagnosis, sy’n cynnwys ymddygiad, rhianta cadarnhaol, deall Anghenion Addysgol Arbennig ac anableddau
- Rhwydweithiau cymorth cymheiriaid er mwyn rhannu profiadau â theuluoedd eraill
- Gwybodaeth a chyngor
- Cymorth emosiynol therapiwtic
I atgyfeirio i’r gwasanaeth hwn, siaradwch ag aelod o dîm Building Blocks trwy ffonio 01639 710076 neu e-bostio: office@buildingblocksfamilycentre.co.uk neu cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot trwy ffonio: 01639 686803 email: spoc@npt.gov.uk neu ymweld â’u gwefan..
Mae gennym hefyd gyfleoedd gwirfoddoli gyda Chamau Ymlaen. Os ydych chi’n rhiant i blentyn ag anabledd ac yn teimlo y gallech helpu pobl eraill, beth am ystyried gwirfoddoli gyda ni? I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma Gwirfoddoli.