Aelodaeth
Aelodaeth Lawn
Mae Aelodaeth Lawn yn agored i bob unigolyn sydd â diddordeb mewn cefnogi nodau ac amcanion ein sefydliad.
Aelodaeth Gyswllt
Mae Aelodaeth Gyswllt yn agored i unrhyw sefydliad gwirfoddol, statudol neu sefydliad sector preifat sy’n cefnogi ein nodau a’n hamcanion.
Cymeradwyo
Mae pob cais yn amodol ar gymeradwyaeth Pwyllgor Rheoli Building Blocks Resolfen. Bydd pob ymgeisydd yn cael gwybod am y penderfyniad derbyn cyn pen 28 niwrnod.
Ffioedd Aelodaeth
- Aelodau Unigol – AM DDIM
- Aelodau Cyswllt – £10.00
Hawliau Pleidleisio
Caiff aelodau llawn eu henwebu eu hunain mewn etholiad i’r Pwyllgor Rheoli a bydd hawl ganddynt i bleidleisio ar y mater yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Adnewyddu
Bydd yr aelodaeth yn adnewyddu’n awtomatig bob blwyddyn os na fydd yr aelod yn hysbysu’r pwyllgor nad yw am barhau â’i aelodaeth. Ni chodir tâl am adnewyddu aelodaeth.
I ddod yn aelod, llanwch y ffurflen aelodaeth os gwelwch yn dda.