Eich cyfle i ennill hyd at £25,000 a chefnogi achos sy’n agos at eich calon …
Mae loteri UNITY ychydig yn wahanol. Bob wythnos, mae cyfle i chi ennill ein prif wobr, gwerth £25,000 ynghyd â nifer o wobrau arian parod eraill gwych a’n helpu ni, ar yr un pryd, i godi arian i gefnogi ein gwaith. Po fwyaf o bobl sy’n chwarae, y mwyaf o arian a gawn, felly mae arnom angen eich cefnogaeth chi. Am bob £1 o dâl cystadlu, bydd o leiaf 50c o elw yn ein cyrraedd ni yn uniongyrchol.
Sut mae’n gweithio?
Tynnir y rhifau ar ddydd Sadwrn ac mae’n costio £1 y tro yn unig i gystadlu. Pan fyddwch yn ymuno â’r loteri, byddwch yn cael eich rhif loteri Unity 6-digid eich hun. Tynnir y rhif buddugol ar hap – paru’r rhif buddugol yw’r nod.
Os byddwch yn paru …
- 6 digid, byddwch yn ennill £25,000 a rhodd o £2,500 i’r achos rydych chi’n ei gefnogi
- 5 digid, byddwch yn ennill £1,000
- 4 digid, byddwch yn ennill £25
- 3 digid, byddwch yn ennill £5
Enghraifft
325764 – y rhif buddugol a ddewiswyd ar hap
326574 – eich rhif loteri chi
(pâr 3-digid sy’n ennill £5)
Sut i ymuno
- Nodwch eich manylion personol er mwyn i ni allu cysylltu â chi pan fyddwch yn ennill.
- Dewiswch nifer y cynigion loteri Unity a pha mor aml rydych chi am dalu.
- Llanwch y gorchymyn debyd uniongyrchol neu amgaewch siec. Datgysylltwch y ffurflen, ei selio a’i dychwelyd atom. Byddwn ni’n dweud wrthych beth yw eich rhif loteri Unity.
I ymuno ar-lein Cliciwch Yma neu galwch heibio i godi taflen o Ganolfan Deuluoedd Building Blocks.