Sut gall Busnesau Gymryd Rhan?

Rhesymau dros gymryd rhan

Rydyn ni’n deall ein bod yn gofyn am gymorth gennych ar adeg pan mae cyllidebau busnesau yn dynn iawn! Fodd bynnag, bydd gweithio gyda Chanolfan Building Blocks yn rhoi neges anhygoel i’ch cwsmeriaid am eich ymrwymiad i blant a phobl ifanc.

Manteisiwch ar y cyfle i lawrlwytho ein Pecyn Codi Arian i Fusnesau a fydd yn rhoi syniad i chi o’r ffordd y gallai eich busnes weithio mewn partneriaeth gyda ni.