Elusen gofrestredig ydyn ni sy’n darparu gwasanaethau cymorth teulu i deuluoedd, i blant ac i bobl ifanc dan anfantais yng Nghwm Nedd. Gwnawn hynny trwy ddarparu nifer o wasanaethau, fel cyngor a chymorth i deuluoedd, gweithdai a hyfforddiant rhianta a mathau eraill o sgiliau bywyd; fforwm ieuenctid sy’n hyfforddi pobl ifanc ynghylch eu hawliau ac ystod o wasanaethau eraill yn y gymuned. Rydyn ni hefyd yn cynnig gofal plant o ansawdd uchel i blant 0-12 oed.