Clwb Gwyliau

Kids Block (3 – 7 oed)

Mae’r Ganolfan Deuluoedd yn cynnig lle i blant 3-7 oed mewn clwb gwyliau penodedig o’r enw KIDS BLOCK. Mae’r clwb ar agor bob gwyliau ysgol, gan gynnig ystod o weithgareddau addas ar gyfer plant 3-7 oed. Mae gennym ystod eang o deganau, gemau a chyfleusterau cyfrifiadur yn ein Canolfan. Bob gwyliau, rydym yn cynllunio ystod o weithgareddau ac yn annog y plant i chwarae gymaint â phosib yn yr awyr agored. Mae’r plant yn cael lleisio barn yn eu clwb ac anogir nhw i gyfrannu at gynllunio sesiynau clwb gwyliau yn y dyfodol.

Youth Block (8 – 12 oed)

Rydyn ni hefyd yn cynnig clwb gwyliau arbennig ar gyfer plant 8-12 oed gyda gweithgareddau addas i’r grŵp oedran hwnnw. Cynllunnir ystod eang o weithgareddau dyddiol yn ystod y gwyliau, y mae modd eu gweld ar ein tudalen Facebook. Os byddwch yn anfon brodyr a chwiorydd i’r naill glwb neu’r llall, peidiwch â phoeni, mae cyfle iddyn nhw gymryd rhan yng ngweithgareddau ei gilydd ar draws y clybiau gwyliau a threulio amser gyda’i gilydd.

Rydym yn darparu nifer o weithgareddau, gan gynnwys pobi cacennau bach, gweithdai dawns, gweithdai rygbi, her cwrs rhwystrau, paentio wynebau, sesiynau ioga, cystadlaethau dawns Wii a llawer mwy o hwyl …

Darperir ystod o fyrbrydau iach a digonedd o ddiodydd yn ystod y dydd ond bydd angen i’ch plentyn ddod â chinio pecyn gyda nhw ynghyd â dillad awyr agored gan ein bod ni’n tueddu i dreulio cymaint o amser â phosib y tu allan yn ystod sesiynau’r clwb gwyliau.

Darperir amrywiaeth o sesiynau clwb gwyliau sydd ar waith rhwng 8am a 6pm.

Prisiau Clwb Gwyliau

Sesiynau

8yb – 1yp or 1yp – 6yh: £12.50 fesul plentyn

9yb – 1yp or 1yp – 5yh: £10.00 fesul plentyn

9yb – 3yp: £14.50 fesul plentyn

8yb – 4yp or 9yb – 5yh: £20.00 fesul plentyn

8.30yb – 5.30yh: £22.00 fesul plentyn

8yb – 6yh: £25.00 fesul plentyn

Cynigir disgowntiau hefyd i frodyr a chwiorydd sy’n dod i’r clwb gwyliau gyda’i gilydd!