Gwasanaethau Plant Anabl

Rydym yn gallu darparu cymorth gofal plant un i un ar gyfer plant anabl a’u teuluoedd. Rydym yn gallu gweithio gyda phlant ag anghenion meddygol, ASD, ADHD, nam ar y golwg ac anableddau eraill.

Mae ein staff yn brofiadol ac yn gymwysedig ac rydym wedi bod yn darparu cymorth un i un ers dros 10 mlynedd.

Bydd eich plentyn yn gallu chwarae a dysgu mewn amgylchedd hapus, diogel ac ysgogol.

O Gam i Gam

Mae pob plentyn yn arbennig ond mae angen ychydig o help ychwanegol ar rai.

Mae O Gam i Gam yn galluogi plant ag anghenion ychwanegol i gael mynediad llawn i leoliadau gofal plant o ansawdd da ledled sir Castell-nedd Port Talbot a chymryd rhan lawn ynddynt.

Mae’r cynllun hefyd yn galluogi plant o deuluoedd sy’n derbyn budd-daliadau penodol i gael mynediad i leoliad gofal plant o ansawdd da am ffi is.

I gael gwybod mwy am y cynllun O Gam i Gam cysylltwch â ni ar 01639 710076, lle gallwn anghenion eich plentyn.