Lle Cyswllt

Llogi’r Lle Cyswllt

Yng Nghanolfan Building Blocks yn Resolfen, mae gennym fan cyfarfod y mae modd ei logi er mwyn i deuluoedd sydd wedi gwahanu ddod at ei gilydd a chyfarfod mewn man diogel a chyfeillgar.

Mae ein hystafelloedd yn ddiogel a chyfforddus ac mae amrywiaeth o deganau ar gael ynghyd â chyfarpar priodol ar gyfer plant o bob oedran, fel cadeiriau uchel a chyfleusterau newid cewynnau. Mae gennym fannau chwarae awyr agored hefyd y gellir eu defnyddio trwy wneud cais ymlaen llaw.

Mae’r lle cyswllt ar gael i’w logi rhwng 9am a 5.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cost llogi’r lle yw:

  • £15.00 yr awr
  • Llogi’r ystafell Synhwyraidd £20.00 yr awr neu £10.00 fesul hanner awr

Nodwch: gellir llogi’r lle cyswllt ar y penwythnos am £25.00 yr awr.

Rheolau Llogi’r Lle Cyswllt

Er mwyn sicrhau lles a diogelwch y plant a darparu lleoliad tawel a chroesawgar, gofynnir i ymwelwyr barchu’r rheolau canlynol tra byddant yn y Ganolfan:

 

  1. Y rhieni/oedolyn cyfrifol sy’n gyfrifol am ddiogelwch y plant ar bob adeg.
  2. Ni chaniateir gadael plentyn yn y Ganolfan heb gwmni rhiant/oedolyn cyfrifol.
  3. Ni chaniateir ysmygu.
  4. Ni fydd neb sydd o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn cael mynediad.
  5. Ni chewch dynnu ffotograffau/fideos.
  6. Disgwylir i ymwelwyr osgoi dadleuon a pheidio â defnyddio iaith ddifrïol na sylwadau sarhaus, boed i’r staff, i rieni eraill, i blant nac i wirfoddolwyr.
  7. Rhaid cadw’r ystafelloedd yn lân a thaclus bob amser.
  8. Rhaid rhoi gwybod i staff y Ganolfan am bopeth a dorrir.
  9. Byddwch yn ystyriol o bobl eraill a all fod yn defnyddio cyfleusterau’r ganolfan hefyd.
  10. Mae gan y ganolfan bolisi cyfrinachedd ond os bydd plentyn yn wynebu risg neu niwed byddwn yn datgelu’r wybodaeth honno gan ddilyn y polisïau priodol.