Bwyd a Bwydlenni

Prydau

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi dyfarnu sgôr o 5 am Hylendid Bwyd i’n Cegin ar safle Resolfen.

Rydym yn paratoi ac yn coginio prydau bwyd ffres ar y safle gan gynllunio bwydlen lawn amrywiaeth sy’n newid bob tair wythnos. Rydym hefyd yn darparu byrbrydau iach ganol bore ac yn y prynhawn ynghyd â darparu te ar ôl ysgol. Os oes gan eich plentyn anghenion deietegol arbennig, byddwn ni’n darparu ar eu cyfer.

Fodd bynnag, bydd angen i chi ddarparu cinio pecyn ar gyfer eich plentyn.

Llaeth a Diddyfnu

Pan fydd eich plentyn yn dod i’r ganolfan, cofiwch drafod patrwm llaeth a phroses ddiddyfnu eich plentyn. Bydd y staff yn sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r un patrymau a dulliau gweithredu.