Noddwr

Jeremy Miles yw ein Noddwr cyntaf

Mae Jeremy Miles Aelod Cynulliad Castell-nedd wedi dod yn noddwr Canolfan Deulu Building Blocks, i gefnogi ein gweledigaeth o ‘adeiladu sylfeini dyfodol ein teulu’.

Dywedodd Nicola Gnojek, Cadeirydd Canolfan Deulu Building Blocks “mae hyn yn fraint enfawr cael Mr Miles fel ein noddwr cyntaf yn dangos ei ymrwymiad i ymuno â ni i wneud gwahaniaeth i fywydau teuluoedd ar draws Castell-nedd Port Talbot”.

Dywedodd Mr Miles “Rwyf wrth fy modd i ddod yn noddwr i Resolfen Building Blocks. Mae’r adnodd teulu hanfodol hwn yn gwneud cyfraniad enfawr at gefnogi plant a theuluoedd yng Nghastell-nedd Port Talbot ac edrychaf ymlaen at barhau i gefnogi gwaith y gweithlu talentog iawn yn Building Blocks.” Jeremy Miles AC Castell-nedd.

Bydd yr apwyntiad yn gweld Mr Miles yn codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau cymorth i deuluoedd y mae Canolfan Deulu Building Blocks yn eu darparu i deuluoedd ar draws Castell-nedd Port Talbot a’r gobaith yw y bydd yn codi ymwybyddiaeth i’r teuluoedd sydd angen ein cymorth.