Sesiynau Cylch Chwarae

Efallai eich bod eisiau’r cyfle i’ch plentyn fwynhau buddion gofal plant er mwyn iddynt ddysgu sgiliau hanfodol cyn mynd i’r ysgol. Mae’r sesiynau cylch chwarae yn para 2 awr sy’n eich galluogi i’w gadael gyda ni i chwarae a chael hwyl wrth ddatblygu sgiliau allweddol megis sgiliau cymdeithasol, emosiynol a hyder.

Rydym yn cynnal y sesiynau hyn bob dydd ar gyfer plant rhwng 0 a 4 oed, ac i gael gwybod mwy cysylltwch â ni ar 01639 710076.