Siop Gwisg Ysgol

Ar gais ein cymuned leol, rydym wedi agor siop gwisg ysgol i ddarparu gwisg ysgol wedi’i hailgylchu ar gyfer ein hysgolion lleol. Mae gwisg ysgol o ansawdd da ar gael ar gyfer amrywiaeth o oedrannau a meintiau. Helpwch yr amgylchedd trwy gasglu gwisg ysgol wedi’i hailgylchu o Ganolfan Deuluoedd Building Blocks. Mae’r cyfan ar gael am ddim.

Os na allwch ein cyrraedd, ffoniwch 01639 710076 a byddem yn falch o ddod â’r dillad ysgol i chi.

Os hoffech gyfrannu eitemau gwisg ysgol, dewch draw â nhw, mae croeso i chi alw unrhyw bryd.

Rydyn ni’n derbyn gwisg ysgol ar gyfer Ysgol Gynradd Ynysfach, Ysgol Gymraeg Cwm Nedd ac Ysgol Gyfun Llangatwg.