Cyfleoedd i blant/bobl ifanc ag anabledd
Plant 0–3 oed
Rydym yn cynnig sesiynau chwarae wythnosol i annog a chefnogi datblygiad eich plentyn a gweithio tuag at ei gerrig milltir yn y blynyddoedd cynnar.
Cynigir:
- Sesiwn wythnosol i chi a’ch plentyn chwarae gyda’ch gilydd
- Amgylchedd chwarae ysgogol a llawn hwyl
- Yr offer sydd eu hangen arnoch i helpu datblygiad eich plentyn
- Cymorth i chi fel rhiant
- Offer datblygu chwarae ymarferol i’w defnyddio gartref
- Cymorth pontio i’r ysgol feithrin/dosbarth meithrin
Plant 4—11 oed
Mae cyfleoedd chwarae wythnosol i blant wneud y canlynol:
- Cymdeithasu gyda’i gilydd
- Gwneud ffrindiau newydd
- Datblygu hyder
- Dysgu sgiliau newydd
- Gwella eu llesiant cyffredinol
- Cymorth pontio i’r ysgol
Pobl ifanc 12—17 oed
Cyflwynir sesiynau grŵp i bobl ifanc 12-17 oed, sy’n cynnig y canlynol:
- Sesiwn wythnosol am 12 wythnos
- Cyfle i’r bobl ifanc gymdeithasu gyda’i gilydd
- Gwneud ffrindiau newydd
- Rhannu profiadau newydd
- Dysgu sgiliau sylfaenol ar gyfer annibyniaeth
- Datblygu hyder
- Gwella eu llesiant cyffredinol
- Cymorth pontio i’r ysgol/coleg
Tra byddan nhw gyda ni, byddwn yn dod i adnabod eich plentyn ac yn canolbwyntio ar gael hyd i weithgareddau hamdden a chymdeithasol yn eich ardal leol chi er mwyn iddynt barhau i dyfu.
Oedolion Ifanc 18—25 oed
Sesiynau gweithgaredd hybu annibyniaeth i helpu pobl ifanc i wneud ffrindiau newydd, dysgu sgiliau cymdeithasol a bod yn annibynnol, datblygu hyder a gwella eu llesiant cyffredinol.
Darparu cymorth pontio i helpu’r oedolion ifanc i ddatblygu gwydnwch a sgiliau byw yn annibynnol.
I atgyfeirio i’r gwasanaeth hwn, siaradwch ag aelod o dîm Building Blocks trwy ffonio 01639 710076 neu e-bostio: office@buildingblocksfamilycentre.co.uk neu cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot trwy ffonio: 01639 686803 e-bostio: spoc@npt.gov.uk neu ymweld â’u tudalen gwe.