Rydym wedi llwyddo i sicrhau £23,477.75 o Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU – Cynllun Grant Trydydd Sector i ddarparu nifer o gyrsiau yn y gymuned i rieni i’w helpu i uwchsgilio a gwella ansawdd eu bywyd. Mae’r prosiect yn rhedeg o fis Mehefin tan fis Hydref, ac ochr yn ochr â’r cyrsiau am ddim gallwn hefyd gynnig gofal plant am ddim i alluogi rhieni i fynychu.